Amdanom

Rydym yn fusnes annibynnol bach, a agorwyd yn yr Wyddgrug bron i saith mlynedd yn ôl.

Mae gennym 4 aelod o staff rhan amser. Enw ein siop yw Mati & Meg ac rydym yn fusnes teuluol. Fe wnaethon ni enwi'r siop ar ôl ein dwy ferch - Martha a Megan. Mae gan Neil a fi dri bachgen hefyd, Elis, Riwben ac Idris.

Gwneir y rhan fwyaf o’n stoc yng Nghymru – rydym yn cefnogi artistiaid a chrefftwyr lleol lle bynnag y bo modd ac er na wnaethom agor gyda’r unig fwriad o fod yn ecogyfeillgar, mae hwn wedi bod yn ddilyniant naturiol i ni. Fe'n dyfarnwyd ni yn bencampwyr Di-blastig gan Gyngor Tref yr Wyddgrug.

Rydym yn uwchgylchu dodrefn, ac yn stocio cynhyrchion bath y gellir eu hail-lenwi, a llawer o gynhyrchion ecogyfeillgar eraill yn ogystal â stocio Annie Sloan Chalk Paint. Rydym yn ailgylchu ein holl wastraff cardbord a phapur.

Ymdrechwn i gadw’r Gymraeg yn fyw drwy bostio’r rhan fwyaf o’n cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog a cheisiwn ddangos bod cynnyrch Cymreig yn gallu bod yn steilus a chyfoes a does dim rhaid i’r cyfan fod yn ddreigiau a chennin Pedr!